Cymraeg English
Telerau ac amodau
Telerau Defnyddio
Mae eich practis meddyg teulu'n darparu'r wefan hon ar y cyd â GIG Cymru a chyflenwr system eich meddyg teulu.
Mae'r wefan hon ar gael i gleifion sydd wedi cofrestru gyda meddyg teulu yn unig, ac sydd wedi cwblhau'r broses gofrestru ar gyfer Fy Iechyd Ar-lein.
Caiff mynediad ei gyfyngu'n llwyr i ddefnyddwyr awdurdodedig sy'n cael mynediad at eu cofnod eu hunain.
Caiff mynediad neu geisio cael mynediad gan ddefnyddwyr diawdurdod ei wahardd yn llwyr.
Mae cael mynediad heb awdurdod yn anghyfreithlon dan gyfraith y DU, ac mae'n cael ei ystyried yn drosedd dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), Deddf Diogelu Data 2018 a Chamddefnyddio Cyfrifiaduron 1990.
Ymchwilir i achosion o geisio cael mynediad heb awdurdod i'r ddyfais hon a gwasanaethau a ddarperir trwy'r ddyfais hon, a bydd y rhai sy'n gyfrifol yn cael eu herlyn.
Chi sy'n gyfrifol am ddiogelu unrhyw wybodaeth fewngofnodi a chyfrineiriau sydd eu hangen er mwyn cael mynediad at y wefan hon.
Os byddwch yn rhannu'r wybodaeth hon ag unigolyn arall, rydych yn gyfrifol am eu mynediad a'u gweithredoedd ynghylch y wybodaeth a gedwir amdanoch. (Gweler y polisi preifatrwydd am ragor o fanylion)
Chi sy'n gyfrifol am gywirdeb unrhyw wybodaeth yr ydych yn ei darparu i'ch meddyg teulu wrth ddefnyddio'r wefan hon.
Mae gan eich practis meddyg teulu hawl i dynnu mynediad yn ôl i'w gwasanaethau ar-lein os bydd amheuaeth o gamddefnyddio.
Efallai bydd y wefan hon yn cynnwys dolenni i wefannau eraill. Nid yw GIG Cymru na'ch meddyg teulu'n gyfrifol am gynnwys na gweithrediad y gwefannau eraill hyn, a dylech ddarllen telerau defnyddio a pholisïau preifatrwydd y gwefannau hynny.Ac eithrio egwyl fer gyda'r nos ar gyfer gwaith cynnal a chadw hanfodol, bwriedir i'r wefan hon fod ar gael bob amser, ond nid oes sicrwydd o hyn.
Efallai bydd eich cyfrifiadur a'ch cysylltiad â'r rhyngrwyd yn effeithio ar sut rydych yn gweld y wefan hon.