Cymraeg English
Polisi preifatrwydd
Gwybodaeth am eich preifatrwydd

Trwy ddefnyddio'r wefan hon, gallwch weld y wybodaeth y mae eich practis meddyg teulu'n ei chadw amdanoch. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y wybodaeth hon, neu os ydych yn meddwl ei fod yn anghywir, cysylltwch â'ch meddyg teulu.

Os byddwch yn defnyddio'r wefan hon i ddiweddaru eich gwybodaeth bersonol, neu i gysylltu â'ch meddyg teulu, gwiriwch y wybodaeth a nodwch yn ofalus, a sicrhewch ei bod yn gywir.

Mae preifatrwydd eich gwybodaeth yn bwysig iawn. Cedwir eich gwybodaeth yn ddiogel gan eich meddyg teulu, a diogelir y wybodaeth a welir ar y wefan hon gan dechnegau seiber ddiogelwch safon y diwydiant.

Mae eich manylion mynediad yn bersonol i chi, ac maent yn cael eu defnyddio gan eich meddyg teulu a'i ddarparwyr gwasanaeth sy'n gweithredu'r wefan hon er mwyn rhoi mynediad i chi i'r system.

Mae unrhyw wybodaeth arall yr ydych yn ei darparu gan ddefnyddio'r wefan hon yn aros gyda'r practis.

Mae eich practis meddyg teulu a sefydliadau GIG eraill Cymru yn prosesu Data Personol fel Prosesydd a Rheolydd, fel y diffinnir yn y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol. Ni ddylech rannu eich cyfrinair gydag unrhyw un.

Os gwnewch chi hyn, eich cyfrifoldeb chi yn llwyr yw hynny, a dylech fod yn ymwybodol y gall hyn olygu bod pobl eraill yn gweld gwybodaeth yr ydych chi eisiau ei chadw'n breifat.

Ni fydd eich practis meddyg teulu'n cadw data am amser hirach nag sydd angen er mwyn bodloni'r dibenion y casglwyd ef ar ei gyfer, neu yn ôl cyfreithiau neu reoliadau perthnasol.

Byddwn yn datgelu gwybodaeth bersonol defnyddiwr heb ganiatâd os bydd:

Byddwn yn datgelu gwybodaeth bersonol pan fydd hawl gennym i wneud hynny yn unig.

Gall y wefan hon gasglu gwybodaeth o'ch porwr sy'n cael ei chofnodi i wella'r wefan hon (Gweler y polisi cwcis).